Quantcast
Channel: Anglo Boer War - Anglo Boer War - Recent Topics - Boer War Forum
Viewing all articles
Browse latest Browse all 3633

Johnny D. Williams - died at Standerton of enteric fever, on 4.1.1902 - by: BereniceUK

$
0
0
This Welsh-language newspaper report of the death of Johnny D. Williams mentions the Remington Scouts; the ABW name search has him in the 82th Company, 21st Btn, IY.

Do we have any Welsh-speakers who can have a go at translating the article, and the poem too (although I can't guarantee that it's part of the article).

MARWOLAETH AR FAES Y GAD. - Bydd yn flin gan lawer glywed am farwolaeth Mr. Johnny D. Williams, mab hoff Mr. a Mrs. Williams, Great Percy Street, Llundain, gynt o Goginan, a brawd I Mrs. Jonathan, Mornington House. Ymunodd yr ymadawedig a'r Remington Scouts yn mis Mawrth diweddaf, ac wedi ymladd llawer brwydr, ac enill llawer buddugoliaeth i'w wlad, bu farw o'r enteric fever yn Standerton, Deheu Affrica, Ionawr 4ydd, yn 22ain oed. Arferai dreuho ei wyliau yma bob hai, ac enillodd barch ac edmygedd y trigolion fel bachgen o gymeriad pur a dirhodres. Nawdd y nef at y teulu yn en galar dwys.

Ergyd trwm idd ei rieni,
Oedd ei golli ef fel hyn;
Heb in cyfle i weinyddu,
Arno yn nghysgodau'r glyn.

Heb gyfleusdra i ffarwelio
Ac i ysgwyd llaw ag ef,
Pan o faes y gad 'n 'mado,
Am heddychol faes y nef.

Balm i'w clwy f'ai cael eneinio,
'I feddrod ef mewn estron wlad,
Gyda'r dagrau sydd yn treiglo
O galonau mam a thad.

A chael planu lili hyfryd
At ei gysegredig fedd;
I arwyddo swyn ei fywyd,
A thlysineb byw ei wedd.

Sued yr awelon effro,
Wrth fynd heibio Salmau hedd;
Engyl nefoedd fyddo'n gwylio
Yn warcheidiol dros ei fedd.

CYFAILL.

(Welsh Gazette and West Wales Advertiser, Thursday 16th January 1902)

Viewing all articles
Browse latest Browse all 3633

Trending Articles